Diogelu Coetiroedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

I’r plant a fynychai ysgol Miss Trotter yn Ffordd y Gogledd yn y 1940au, roedd ymweliad gan ei chyfaill J. R. Tolkien yn agoriad llygad gan amlygu apêl y chwareli a oedd wedi bod yn wag ers amser maith uwchben Heol yr Ysbyty lle gallant nawr gogio bod yn hobit go iawn.

Erbyn hynny roedd y domen rwbel a wyneb y graig a oedd wedi’i ddatgelu eisoes wedi’u cytrefu gan eithin, banadl a choed bach gan gyfuno bron yn ddi-dor â Choed Penglais. Roedd y coed hyn wedi bod yn amlwg iawn uwchben ochr ogleddol y dref ers talwm a bron yr unig beth a oedd ar ôl heb ei gyffwrdd o ystad wreiddiol Plas Penglais. Roedd trigolion Cae Melyn a Dan y Coed, dwy ystad dai fach a adeiladwyd yn ddiweddarach islaw Coed Penglais, wedi dechrau pryderu fwyfwy am amlder y tanau, sbwriel a dirywiad cyffredinol yn iechyd y goedwig.

Team and groupArweiniodd hyn yn y pen draw yn y 1980au hwyr i Gyngor Sir Ceredigion gomisiynu adroddiad yn edrych ar ‘safleoedd a allai gyfrannu at les economaidd, cymdeithasol ac amgylchedd y dref’. Datblygwyd sawl cynllun o ganlyniad gan gynnwys syniad y Parc Poced – sef ‘man gwyrdd naturiol bach sydd o bwys amgylcheddol neu hanesyddol yn y dirwedd’. Disgrifiad eitha’ da ond gan nad oedd Parc Poced Penglais yn swnio hanner cystal â Pharc Natur Penglais, dyma oedd yr enw swyddogol wrth i bethau symud ymlaen.

Yn gynnar yn 1991 cynhaliodd y cyngor ymgynghoriad cyhoeddus yn Amgueddfa Ceredigion gyda dros 300 o bobl yn bresennol. Sefydlwyd Grŵp Cefnogi Parc Natur Penglais o ganlyniad er mwyn rheoli’r parc ar y cyd â’r cyngor. Enillwyd Gwobr Tywysog Cymru yn 1993 yn gydnabyddiaeth o gyswllt agos pwyllgor Parc Natur Penglais â Chyngor Sir Ceredigion ar ran y gymuned leol, ac yna cafodd y parc ei ddynodi’n Warchodfa Natur Leol yn 1995, yr un gyntaf yng Ngheredigion. Enillwyd gwobr Dyn a Biosffer Gwarchodfa Natur Drefol UNESCO yn 1997 – yr un gyntaf yng Nghymru.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae cymorth parhaus gan Amgylchedd Cymru wedi helpu i ariannu prosiectau megis clirio eithin, adfer a chodi waliau cerrig, ac adfer llwybrau.

I’r rhan fwyaf o drigolion Aberystwyth, mae Coed Penglais yn darparu cefndir gwledig i’r dref ac yn llythrennol yn rhan o’r olygfa ond does bosib na fyddai llawer sy’n edrych fyny o’r strydoedd prysur yn gweld colli’r goedwig gyfnewidiol hon pe na bai hi yno. Wrth i ddatblygiadau barhau ar safleoedd maes glas yn wrth ymyl rhiw Penglais, dylai trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd fod yn ddiolchgar bod yna bobl sy’n gweithio’n galed i sicrhau bod y goedwig hanesyddol hon yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Prosiect Parc Natur Penglais

 

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s